Rhwydwaith sy’n cael ei arwain gan ei aelodau yw Rhwydwaith Cydweithredu Cymru i wneud Cymru’n lle tecach a mwy cynaliadwy, lle mae gan bawb lais. Eu rôl yn y prosiect hwn yw helpu Llywodraeth Cymru i ddylunio, datblygu a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau i ennyn diddordeb pobl, a’r cyfan yn seiliedig ar egwyddorion cydweithredu. Byddant yn dadansoddi’r data sy’n cael ei gasglu yma ac yn cyflwyno’r canfyddiadau i Lywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol, i helpu iddynt greu Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer y Canolbarth a De-ddwyrain Cymru.